Y Comisiwn Brenhinol: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yw’r adain ymchwil a datblygu ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru. Y gwaith maes yr ymgymerwn ag ef a’r cofnodion a guradurwn yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, gyda’i gilydd, yw’r sylfaen tystiolaeth ar gyfer deall treftadaeth archaeolegol, adeiledig ac arforol Cymru, ar gyfer y penderfyniadau polisi a wneir gan lywodraeth genedlaethol a lleol, awdurdodau cynllunio, busnesau, buddsoddwyr a datblygwyr, ac ar gyfer yr ymchwil yr ymgymerir ag ef gan academyddion, myfyrwyr a’r cyhoedd.

Mae swyddfeydd y Comisiwn Brenhinol yn Aberystwyth ac fe’i noddir gan Lywodraeth Cymru, sy’n cyfrannu tua £1.5m y flwyddyn at ei gyllideb. Mae’r Cadeirydd a’r Comisiynwyr wedi’u penodi gan y Goron i gyfarwyddo gwaith y 30 aelod staff arbenigol sy’n ymgymryd ag ymchwil maes, gwaith curaduro a gweithgarwch ymgysylltu â’r cyhoedd ar ran y Comisiwn.

1.         Cwestiynau am ddiogelu treftadaeth yng Nghymru:

·            Gweithredu Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016;

·            Diogelu adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig;

·            Diogelu adeiladau a henebion sydd mewn perygl.

Deddfwriaeth flaengar: Gyda phasio Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) yn 2016 daeth Cymru’n arweinydd ym maes diogelu treftadaeth. Gellir dadlau mai hon yw’r ddeddfwriaeth diogelu treftadaeth fwyaf blaengar yn y byd a gall Cymru fod yn falch ohoni. Rhai darpariaethau sy’n benodol i Gymru yw Cofrestri Amgylchedd Hanesyddol wedi’u cyllido gan y wladwriaeth a ddefnyddir gan awdurdodau lleol wrth ymarfer eu cyfrifoldebau cynllunio a datblygu, a mesurau i ddiogelu enwau lleoedd a pharciau a gerddi hanesyddol.

Arweiniad ymarferol: Mae hi wedi cymryd amser wrth gwrs i ddarpariaethau cyfreithiol y Ddeddf gael eu troi’n arweiniad ymarferol. Cadw sydd wedi ymgymryd â’r dasg sylweddol o lunio dogfennau niferus, ymgynghori â’r sector a chyhoeddi’r canlyniadau. Mae’r Comisiwn Brenhinol wedi chwarae rhan amlwg yn y broses hon, yn enwedig o ran paratoi arweiniad ar werthuso a rheoli ardaloedd cadwraeth. Hefyd mae Cadw wedi gofyn i’r Comisiwn ysgrifennu arweiniad ar gyfer swyddogion cadwraeth a chynllunio yn eu hatgoffa o’r rhyddid sydd ganddynt i ofyn i ddatblygwyr dalu am gofnodi adeiladau hanesyddol fel amod ar gyfer cael caniatâd adeilad rhestredig. Os oes un maes lle yr ydym yn parhau’n bryderus gan na chytunwyd eto ar strategaeth (gweler isod) nac arweiniad arfer gorau, maes archaeoleg arforol yw hwnnw, lle y mae’r adnodd morol dan bwysau o ganlyniad i echdynnu agregau a chynlluniau ar gyfer ffermydd gwynt a morgloddiau llanw.

Roedd gan y broses ymgynghori lawer o agweddau cadarnhaol: un o’r rhain yw bod y sector wedi helpu i wella’r drafftiau gwreiddiol drwy gynnig awgrymiadau ymarferol ar gyfer sicrhau y bydd yr arweiniad yn gweithio; un arall yw’r ffordd y mae cymorth wedi dod o’r tu hwnt i’r sector – cafwyd llawer o ewyllys da a chydweithrediad gan gydweithwyr sy’n gweithio mewn adrannau cynllunio ac amgylcheddol, er enghraifft.

Diogelu enwau lleoedd hanesyddol: Maes arall lle y gwnaed cynnydd cyflym a chadarnhaol yw creu cofrestr o enwau lleoedd hanesyddol yn unol â gofyniad Adran 34 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016. Cafodd y dasg o greu’r gofrestr ei dirprwyo i’r Comisiwn Brenhinol gan Cadw; sefydlasom grŵp ymgynghorol a oedd yn cynrychioli’r holl randdeiliaid, gan gynnwys Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru, Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd. Lansiwyd y Rhestr gychwynnol gan Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet, ar 8 Mai 2017. Roedd yn cynnwys 350,000 o enwau wedi’u codi o ffynonellau sy’n gynharach na’r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r Rhestr yn darparu mynediad hwylus i un ffynhonnell ganolog o wybodaeth am enwau lleoedd hanesyddol ac mae wedi cael croeso gan y cyhoedd a defnyddwyr proffesiynol, megis awdurdodau lleol ac Adrannau’r Llywodraeth yng Nghymru, sy’n gwneud penderfyniadau am newidiadau arfaethedig i enwau neu am enwau newydd arfaethedig.

Yr angen am gynllun strategol: Er ei bod hi’n rhy fuan i asesu pa mor dda y mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 yn gweithio, a pha fath o effaith y mae wedi’i chael, mae’n amlwg, er gwaethaf y Ddeddf, nad oes gan Gymru strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol. Mae gan asiantaethau treftadaeth gwladol Lloegr (Historic England) a’r Alban (Historic Environment Scotland, neu HES) gynlluniau strategol sy’n nodi amcanion y cytunwyd arnynt ar gyfer y sector am y pum mlynedd nesaf: nid yw Cymru wedi cynhyrchu un eto. Yn ogystal, er bod y Ddeddf yn darparu ar gyfer sefydlu Bwrdd Ymgynghorol y byddai ei aelodau’n gyfrifol am weithredu fel ‘gwarchotgi’ ac ymgynghorydd Ysgrifennydd y Cabinet ym maes diogelu treftadaeth, nid yw’n ymddangos bod dim wedi’i wneud eto i ffurfio corff o’r fath. Gobeithir, unwaith y bydd y dewisiadau ar gyfer dyfodol Cadw wedi cael eu hystyried, a phenderfyniad wedi’i wneud, y bydd sylw’n troi at greu Bwrdd Ymgynghorol.

Dynodi systematig: Rhan greiddiol o strategaeth diogelu Amgylchedd hanesyddol Lloegr a’r Alban yw eu hymagwedd systematig at ddynodi. Mae’n siŵr bod aelodau’r Pwyllgor Diwylliant yn cofio storïau yn y cyfryngau am y rhestr fwyaf diweddar a gynhyrchwyd gan Historic England yn sgil ei gweithgarwch dynodi – roedd yr amrywiaeth o adeiladau a ychwanegwyd at y gofrestr o asedau treftadaeth yn 2017 yn cynnwys Underhill House yng Ngorllewin Swydd Efrog, y tŷ tanddaear modern cyntaf i’w adeiladu ym Mhrydain, y Cabman’s Shelter yn Grosvenor Gardens, Llundain, a’r adeiladau sy’n ffurfio’r fynedfa i Fynwent Iddewig Willesden yn Llundain. Mae’r rhestriadau hyn yn deillio o arolygon blynyddol o asedau treftadaeth sy’n cynnwys elfen thematig – yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Historic England wedi cynnal arolygon o adeiladweithiau rheilffordd, adeiladau’n gysylltiedig â’r dreftadaeth Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol, pensaernïaeth ‘Brutalist’ a phensaernïaeth ôl-ryfel.

Nid oes gan Gymru raglen asesu, arolygu a gwerthuso systematig o’r fath. Bu Cymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru yn arbennig o feirniadol o’r methiant i wneud arolwg o adeiladau’r 20fed ganrif yng Nghymru ac i asesu pa adeiladau y dylid eu diogelu drwy eu rhestru. Mae Cadw yn cyfaddef y bu gweithgarwch rhestru yng Nghymru yn adweithiol, yn hytrach na rhagweithiol, am y ddeng mlynedd neu ragor diwethaf; bu’n seiliedig ar geisiadau sbot-restru gan aelodau’r cyhoedd a oedd yn poeni y gallai adeilad gwerthfawr gael ei golli. Yn anaml iawn y bydd y ceisiadau hyn yn llwyddiannus.

Credwn fod cynnal arolygon thematig systematig yn hanfodol er mwyn rhoi rhywfaint o amddiffyniad i adeiladau a henebion gorau a phwysicaf Cymru. Mae cylch gwaith y Comisiwn Brenhinol yn cynnwys ymgymryd â’r math hwn o arolygon, ond mae prinder adnoddau yn cyfyngu’n sylweddol ar ein gallu i helpu Cadw i fabwysiadu ymagwedd ragweithiol at restru. Rydym wedi llwyddo i gwblhau arolygon o gapeli hanesyddol yng Nghymru ac o archaeoleg ucheldirol; rydym ar hyn o bryd yn cynnal arolygon o barciau a gerddi hanesyddol ac effeithiau newid hinsawdd ar dreftadaeth arfordirol, ond mae toriadau diweddar yn ein cyllideb yn golygu nad oes gennym yr adnoddau i ymgymryd ag arolygon o’r categorïau o adeiladau sydd fwyaf dan fygythiad, gan gynnwys ffermydd hanesyddol ac addoldai o’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif.

Treftadaeth mewn perygl: Daethpwyd i’r casgliad mai ffermydd ac addoldai ôl- ganoloesol sydd fwyaf mewn perygl ar sail dadansoddiad o’r gronfa ddata o adeiladau a henebion mewn perygl a gynhelir gan Cadw. Bydd Cadw hefyd yn ymgymryd ag arolwg ‘cyflwr’ rheolaidd o adeiladau a henebion rhestredig. Mae’r dasg o gymryd camau i ddatrys problemau esgeulustod wedi’i dirprwyo i awdurdodau lleol, sy’n cael eu hannog, bob un, i gynnal eu cofrestri risg lleol eu hunain (mae peth gwrthdaro rhwng buddiannau yma gan fod cyfran dda o adeiladau mewn perygl yng Nghymru yn eiddo i awdurdodau lleol).

Nid yw’n glir i ba raddau y mae canlyniadau arolygon cyflwr yn cael eu defnyddio i ymyrryd ac i annog perchnogion i atgyweirio neu ddiogelu adeiladau y nodwyd eu bod mewn perygl. Mae’n bosibl mai’r rheswm am hyn yw bod Cadw a staff cadwraeth awdurdodau lleol yn gwybod nad oes atebion hawdd, ond nid yw adeiladau sydd wedi’u hesgeuluso ac mewn perygl yn broblem treftadaeth yn unig: maent hwy’n effeithio hefyd ar les trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae angen gofyn cwestiynau ynghylch a yw Cymru mor frwd dros adfywio â rhannau eraill o’r DU, ac os nad ydyw, pam?

Hyfforddiant a chyfathrebu: Yn olaf, er bod cyhoeddi arweiniad a darparu cyllid yn rhagorol ynddynt eu hunain, ni fyddant yn gwneud gwahaniaeth oni wneir ymdrech fawr i gyfleu darpariaethau’r Ddeddf, eu hegluro wrth aelodau etholedig a gweithwyr awdurdodau lleol, a sicrhau bod datblygwyr ac eraill yn ymwybodol o ofynion y Ddeddf. Un model y gellid ei ystyried ar gyfer cyflawni hyn fyddai’r rhaglen HELM (Historic Environment Local Management) a weithredir gan Historic England, sy’n cynnig hyfforddiant i staff ac aelodau awdurdodau lleol ar amrywiaeth o bynciau’n ymwneud â’r amgylchedd hanesyddol.

Tangyllido: Ni ddylid cymryd y sylwadau uchod fel beirniadaeth o Cadw. Eu pwrpas yw tynnu sylw at eironi mawr: er bod gan Gymru ddeddfwriaeth diogelu treftadaeth flaengar, nid oes gan y sector strategaeth glir ac mae’n cael ei dangyllido i’r fath raddau fel nad yw’n gallu cyflawni rhai o’r tasgau sylfaenol, megis rhestru, y mae asiantaeth treftadaeth wladol yn bodoli i’w cyflawni.

Nid Cadw yw’r unig sefydliad sydd heb gyllid digonol. Er mai Cadw a Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am osod polisi a chyfeiriad strategol ym maes yr amgylchedd hanesyddol, cyfrifoldeb nifer o gyrff eraill yw rhoi’r arweiniad ar waith, yn eu plith y Comisiwn Brenhinol (cofnodi yn y maes a churaduro Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru), awdurdodau lleol (strategaeth cynllunio, rheoli datblygu, rheoli ardaloedd cadwraeth) ac Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru (rheoli’r Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol a gwaith lliniaru ar ôl i ganiatâd cynllunio gael ei roi).

Mae’r holl sefydliadau hyn yn ei chael hi’n anodd cyflawni eu swyddogaethau craidd ac nid ydynt yn derbyn digon o arian i gyflawni’r holl dasgau a roddwyd yn eu gofal. A thra bo’r gyllideb flynyddol yn cael ei gwario’n bennaf ar swyddogaethau craidd, ni fydd lwfans yn ein cyllidebau ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol. Mae’r Comisiwn Brenhinol wedi ymdrechu’n galed i godi arian o ffynonellau anllywodraethol, ac wedi cael cryn lwyddiant wrth wneud ceisiadau am grantiau mawr gan gyrff megis Cronfa Inter-Reg yr Undeb Ewropeaidd, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Mae llwyddiant yn y maes hwn yn sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer prosiectau y dymunwn ymgymryd â hwy, ond nid yw’n caniatáu i ni wneud buddsoddiadau allweddol yn y seilwaith.

Cynllunio olyniaeth a’r seilwaith TG: Mae tangyllido mewn dau faes penodol yn peri pryder arbennig i’r Comisiwn ac i’r sector yn gyffredinol: y gallu i fanteisio ar y datblygiadau technegol diweddaraf a chynllunio olyniaeth. Mae’r rhain o bryder mawr i’r Comisiynwyr oherwydd y bydd angen buddsoddi’n helaeth yn ein platfform ar gyfer rheoli gwybodaeth yn y Cofnod Henebion Cenedlaethol er mwyn parhau i gwrdd â gofynion archifau digidol a darparu’r gwasanaeth y bydd y cyhoedd yn ei ddisgwyl yn y blynyddoedd i ddod.

Y maes arall sy’n peri pryder difrifol yw’r diffyg cyfle ar gyfer olyniaeth, y diffyg cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant yn y swydd, diffyg trosglwyddo sgiliau a diffyg parhad. Ar yr achlysuron prin pan hysbysebir swyddi, mae digonedd o ymgeiswyr – ond bach iawn yw nifer yr ymgeiswyr y mae ganddynt y profiad angenrheidiol i gymryd lle staff hynod brofiadol sydd wedi ymddeol neu wedi symud ymlaen. Yn ddelfrydol, dylai’r sector fod yn cynnig prentisiaethau a rhaglenni hyfforddi, ond nid oes gennym yr arian i wneud hynny.

2.         Cwestiynau am y cynigion ‘Cymru Hanesyddol’ ar gyfer cynyddu incwm ac annog mwy o gydweithio rhwng Cadw, y Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru a’r Comisiwn Brenhinol:

·            Hwyluso cydweithio o fewn y sector;

·            Cynyddu i’r eithaf werth twristiaeth treftadaeth ac ymdrechion Cadw i gwrdd â’i dargedau cynhyrchu incwm;

·            Cydweithio ag asedau treftadaeth yn y sector preifat;

·            Statws Cadw yn y dyfodol.

Partneriaeth strategol: Mae’r Comisiwn Brenhinol wedi chwarae rhan arweiniol yn y trafodaethau ar y cynigion ‘Cymru Hanesyddol’, ac etholwyd Ysgrifennydd y Comisiwn yn gyd-gadeirydd (gyda Gareth Howells o’r Undeb Prospect) y bartneriaeth strategol sydd wedi deillio o’r gwaith hwn.

Mae’r bartneriaeth strategol yn dwyn ynghyd y pedair asiantaeth treftadaeth yng Nghymru a ariennir gan y Llywodraeth (Cadw, y Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru a’r Comisiwn Brenhinol), a swyddogion y tri undeb staff. Yn y ddau gyfarfod cyntaf, rhai pynciau a ddewiswyd ar gyfer mwy o gydweithio a mentrau ar y cyd oedd strategaeth sgiliau sector, strategaeth arlwyo ac adwerthu, marchnata hawliau eiddo deallusol, datblygu platfform e-fasnach dwyieithog a datblygu cynnig twristiaeth integredig (Tocyn Treftadaeth Cymru Gyfan).

A ydym ni’n rhan o’r sector twristiaeth? Mae’n werth pwysleisio yn y man hwn nad yw dau o’r sefydliadau uchod (y Llyfrgell Genedlaethol a’r Comisiwn Brenhinol) yn rhan o’r diwydiant twristiaeth, a bod eu gweithgareddau a’u cysylltiadau yn perthyn yn nes i’r sector addysg. Lleoedd ar gyfer astudio ac ymchwil yw’r ystafelloedd ymchwil yn y Llyfrgell a’r Comisiwn Brenhinol, a phrifysgolion yw ein partneriaid agosaf.

Yn yr un modd, nid yw twristiaeth ond rhan o’r hyn y mae Amgueddfa Cymru a Cadw yn bodoli i’w wneud: mae ymchwil a dysgu yn chwarae rhan fawr yn eu gweithgareddau, ac mae gan Cadw rôl sylweddol iawn fel y gwasanaeth sy’n cynghori Llywodraeth Cymru ar bolisi amgylchedd hanesyddol (felly mae Cadw yn cyfuno’r swyddogaethau a gyflawnir bellach yn Lloegr gan ddau sefydliad ar wahân: swyddogaethau ymgysylltu â chwsmeriaid English Heritage a swyddogaethau polisi a chynllunio Historic England).

Ar ôl dweud hynny, bydd Cadw ac Amgueddfa Cymru yn trefnu atyniadau i ymwelwyr sy’n rhan annatod o gynnig twristiaeth Cymru. Weithiau dywedir bod Cymru’n llai llwyddiannus na chenhedloedd o faint cyffelyb yn ei hymdrechion i ddenu twristiaid (yn ddiweddar, ar y rhaglen BBC ‘Wish You Were Here’ a ddarlledwyd ar 11 Gorffennaf 2017, tynnwyd sylw at y gwahaniaethau rhwng polisi twristiaeth Cymru a’r Alban, er anfantais i Gymru) ond mae’n anodd dod o hyd i ffeithiau caled. Deallwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi comisiynu adroddiad gan Simon Thurley, cyn Brif Weithredwr English Heritage, yn benodol i feincnodi perfformiad Amgueddfa Cymru yn erbyn sefydliadau cyffelyb mewn mannau eraill ac edrychwn ymlaen at weld canlyniadau’r ymarfer hwnnw, a fydd efallai’n ein helpu ni i gyd i ddeall y materion dan sylw yn well.

Ein gweledigaeth: Beth bynnag fydd y canlyniad, nid oes unrhyw ddiffyg gweledigaeth ar ran y sector nac aelodau’r bartneriaeth strategol, Cymru Hanesyddol. Rydym yn angerddol ynghylch amgylchedd hanesyddol (a naturiol) Cymru ac yn dyheu am eglurder brandio a phrofiad gwell i bob ymwelydd â Chymru. Credwn fod gennym atyniadau i ymwelwyr sydd ymhlith y gorau yn y byd a allai fod ar restri ‘rhaid gweld’ pobl sy’n teithio i’r DU o wledydd tramor. Hoffem weithio’n nes â darparwyr twristiaeth eraill er mwyn cynnig dewis cyfoethog o atyniadau ac annog pobl sy’n dod i Gymru ar gyfer un gweithgaredd, megis cyngerdd neu gêm rygbi, i aros am fwy o amser a gwneud rhywbeth arall, megis ymweld â chastell neu amgueddfa, neu i ddod yn ôl dro ar ôl tro.

Rydym am gynnig teithio wedi’i seilio ar brofiadau – teithio sy’n cyfoethogi ac yn newid bywydau. Rydym am i siopau a bwytai ein hamgueddfeydd a’n hatyniadau hanesyddol ddod yn gyrchfannau penodol ynddynt eu hunain – lleoedd y mae pobl yn dod iddynt i gael cinio neu de, neu i brynu anrhegion i’r teulu a ffrindiau, lleoedd sy’n hyrwyddo’r crefftau a bwydydd Cymreig gorau. Rydym am ychwanegu gwerth at aelodaeth o Cadw a datblygu cylchgrawn Cadw yn gyhoeddiad i’r sector treftadaeth yn gyffredinol sy’n denu refeniw sylweddol o hysbysebu ac yn hybu twristiaeth ddiwylliannol yng Nghymru. Rydym am ddatblygu sector twristiaeth ffydd a phererindota iach ac annog ymweliadau gan y miliynau o bobl ar hyd a lled y byd sy’n falch o’u gwreiddiau Cymreig.

Buddsoddi ac arweinyddiaeth: Mae gwireddu’r weledigaeth hon yn dibynnu ar nifer o ffactorau. Ar hyn o bryd mae gan staff yn y sector arbenigedd ym meysydd curaduro, archifau neu’r amgylchedd hanesyddol. Ond nid oes gennym bobl â sgiliau cynllunio busnes, codi arian a denu nawdd, marchnata’r fasnach deithio, arlwyo ac adwerthu, ac mae’n bwysig i ni fuddsoddi yn y meysydd hyn. Mae angen cydweithredu â mwy o gyrff na’r pedwar sy’n cymryd rhan ar hyn o bryd yn bartneriaeth strategol Cymru Hanesyddol er mwyn cynnwys yr holl sefydliadau hynny sydd â budd mewn twristiaeth Gymreig, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Croeso Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a’r Gymdeithas Tai Hanesyddol. Mae sicrhau cyllideb ddatblygu, ac arweinyddiaeth egnïol ac ysbrydoledig, yn hanfodol i hybu’r weledigaeth hon.

Dewisiadau ar gyfer dyfodol Cadw: Bydd llawer yn dibynnu hefyd ar ddod o hyd i ffordd i alluogi Cadw i ddod yn fwy masnachol heini. Yn ogystal â bod yn gorff sy’n gweithredu atyniadau treftadaeth i ymwelwyr, Cadw yw asiantaeth treftadaeth y wladwriaeth. Mae’r ddwy swyddogaeth wedi’u gwahanu yn Lloegr i greu dau gorff newydd, ond yn yr Alban fe’u cadwyd mewn un sefydliad. Mae’n debyg bod Cadw yn rhy fach i’w rannu, a byddai gwneud hynny’n arwain at ddyblygu swyddogaethau a cholli’r cydweithio agos sy’n bodoli rhwng gwahanol rannau’r sefydliad.

Bydd yn ddiddorol gweld canlyniadau adroddiad Kate Clark i’r dewisiadau ar gyfer Cadw, ond ymddengys i ni mai cadw’r sefydliad yn gyfan fyddai’r dewis gorau. Mae’n debyg y byddai hynny’n golygu aros yn agos at y Llywodraeth: os felly, byddai angen rhyddid ar Cadw i fod yn fwy entrepreneuraidd a masnachol. Golygai hynny y byddai angen mynd i’r afael â’r cyfyngiadau presennol ar recriwtio, caffael, cyllidebu a chynllunio olyniaeth. Mae mwy o atebolrwydd cyhoeddus yn hanfodol hefyd; yn y gorffennol byddai Cadw yn cyhoeddi adroddiadau blynyddol ar ei berfformiad. A, hyd yn oed heddiw, nid yw llawer o’r cyhoedd yn sylweddoli bod Cadw yn un o adrannau Llywodraeth Cymru.

3.         Cwestiynau ynghylch i ba raddau y mae’r sector treftadaeth yn cyfrannu at amcanion cymdeithasol Llywodraeth Cymru:

Gweithredu adroddiad y Farwnes Andrews ar Ddiwylliant a Thlodi: dyma faes arall lle nad oes unrhyw ddiffyg uchelgais yn y sector ond lle nad oes adnoddau i roi cynlluniau dibynadwy ar waith.

Mae’n bosibl mai’r brif wers y mae’r sector treftadaeth wedi’i dysgu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf wrth geisio ymateb i Adroddiad Andrews yw bod staff gwasanaethau cymdeithasol ac awdurdodau lleol yn gweithredu fel ‘porthorion’ i grwpiau wedi’u tangynrychioli ac unigolion anodd eu cyrraedd y gallem eu helpu. Mae’r porthorion hyn yn aml yn amau a oes gan dreftadaeth a diwylliant unrhyw beth perthnasol i’w gynnig iddynt hwy neu eu cleientiaid. Bu’n rhaid gwneud llawer o waith i ennill eu cefnogaeth yn ystod y tair blynedd ddiwethaf.

Lle rydym wedi gallu goresgyn y rhwystr hwn, y rheswm am hynny fel rheol yw bod rhywun mewn awdurdod lleol wedi dod at gorff treftadaeth gyda syniad neu gynnig penodol sydd wedyn wedi cael ei ddatblygu a’i weithredu ar y cyd. Cawn drafferth ddyfeisio prosiectau perthnasol heb eu cyfranogiad, a hyd yn oed pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd, mae angen adnoddau sylweddol i allu ymateb yn effeithiol, mae’r canlyniadau’n ansicr, a gall nifer y bobl sy’n cael eu helpu fod yn fach iawn.

I grynhoi, hoffem weld:

·            codi’r flaenoriaeth a roddir i’r amgylchedd hanesyddol mewn cynllunio gan y Llywodraeth a dadwneud toriadau niweidiol y blynyddoedd diwethaf er mwyn galluogi Cadw, y Comisiwn Brenhinol, Amgueddfa Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol i gyflawni eu swyddogaethau craidd a gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd a gynigir gan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016;

·            sefydlu Bwrdd Ymgynghorol i fod yn warchotgi ar ran amgylchedd hanesyddol Cymru ac i roi cyngor i Ysgrifennydd y Cabinet ar bolisi;

·            cynllun strategol ar gyfer y sector amgylchedd hanesyddol yng Nghymru ac ymagwedd fwy rhagweithiol at ddynodi;

·            mynd i’r afael â’r cyfyngiadau ar fentro sy’n llesteirio’r sector, gan gynnwys cyllidebau blynyddol a pholisïau llym y llywodraeth ar gaffael a recriwtio;

·            buddsoddi mewn cynllunio olyniaeth a’r seilwaith TG;

·            buddsoddi mewn twristiaeth, marchnata a sgiliau codi arian;

·            mwy o gydweithredu rhwng gwahanol rannau’r sector twristiaeth ddiwylliannol a phwyslais cryf ar wella profiad ymwelwyr â Chymru, gan wneud ein safleoedd, henebion ac amgueddfeydd yn lleoedd gwell i ymweld â hwy ac yn fwy proffidiol.